Mae’r bygythiad yr ydym yn ei achosi i’n hamgylchedd yn cymryd sawl ffurf, ond ychydig ohonynt sy’n fwy hyll nag annymunol â’r hyn a ddigwyddodd i Afon Gwy ym mis Mehefin y llynedd. Trodd yr afon, y bumed hiraf yn y DU, yn wyrdd afiach oherwydd alga oedd yn blodeuo, gan atal goleuni’r haul rhag cyrraedd y planhigion a’r pysgod yn yr afon ac amddifadu eog yr Iwerydd, y llysywen Ewropeaidd a’r brithyll brown o’r ocsigen y maen nhw angen i anadlu.
Gellir priodoli’r digwyddiad i lefel y ffosffad yn yr afon sydd â llawer o achosion, mae bron pawb yn cytuno. Ac eto, fel y mae David Attenborough a’r BBC wedi dangos mor glir unwaith eto ar y teledu y mis hwn, mae hyn yn rhan o fethiant llawer mwy, ar lefel fyd-eang, i amddiffyn ein hamgylchedd ein hunain.
Nid yw’r byd naturiol yn cydnabod ffiniau
Er gwaethaf ein dyheadau i dynnu llinellau ar fapiau nid yw’r byd naturiol yn cydnabod ffiniau. Mae ein hamgylchedd a bywyd gwyllt yng Nghymru yn rhan o un ecosystem fyd-eang rhyng-gysylltiedig. O gofio hyn, os ydym o ddifri am amddiffyn ac adfer rhywogaethau eiconig, mae rhaid i lywodraethau ledled y byd gytuno i wneud safiad dros fyd natur. Dyna’r union beth yn union fydd yn digwydd, gobeithio, yn y Gynhadledd ar y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yn Kunming yn Tsieina eleni (COP 15) – er nad yw’r union ddyddiad yn glir eto oherwydd Covid-19.
Mae’r gynhadledd hon yn rhan o broses barhaus. Yn 2010, fe gytunodd llawer o lywodraethau’r byd dargedau, a elwir yn dargedau Aichi, gyda’r nod o wyrdroi dirywiad byd natur. Daeth yr Adroddiad Rhagolwg Bioamrywiaeth Byd-eang, a gyhoeddwyd y mis diwethaf, i’r casgliad bod y DU – a gweddill y byd – wedi methu â chymryd camau digonol i wneud hyn. Mae’r methiant hwn hefyd wedi’i gydnabod gan Lywodraeth Cymru a dyna pam fod COP15 mor bwysig.
Fel yr oedd Cytundeb Paris ar gyfer yr hinsawdd
Gobeithio y bydd y gynhadledd hon yn gwneud ar gyfer bioamrywiaeth yr hyn a wnaeth Cytundeb Paris ar gyfer yr hinsawdd fyd-eang. Wrth gwrs, gall unrhyw lywodraeth genedlaethol weithredu i amddiffyn bywyd gwyllt o fewn ei ffiniau ei hun. Ond nid yw pethau’n debygol o newid ar lefel y lefel rhyngwladol os nad yw llywodraethau’r byd i gyd yn ymrwymo i weithredu, ac yn ategu hyn gydag ymrwymiadau ar fonitro, gwerthuso, adrodd yn ôl a gwirio.
Dyna’r hyn rydyn ni’n gobeithio fydd yn digwydd yn COP15. Dywed Llywodraeth y DU ei bod hi’n awyddus i chwarae rhan allweddol. Ond os yw hyn i ddigwydd, bydd angen iddyn nhw ddangos bod pob llywodraeth yn y DU wedi ymrwymo i’r mathau o dargedau maen nhw eisiau llywodraethau eraill eu mabwysiadu.
Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru yn credu, os ydym o ddifri am amddiffyn bywyd gwyllt sydd dan fygythiad yng Nghymru, mae rhaid inni ddangos arweinyddiaeth, cefnogi targedau byd-eang uchelgeisiol i adfer bioamrywiaeth ac ymrwymo i adlewyrchu’r targedau hyn mewn deddf gwlad. Bydd hyn yn darparu’r atebolrwydd sy’n hanfodol ac yn canolbwyntio sylw Llywodraeth Cymru ar gyflawni’r targedau a’r cerrig milltir hynny, fel sydd wedi digwydd gyda’r argyfwng hinsawdd, chwarae teg.
Dyma sefyllfa lle gall pawb fod ar eu hennill. Fe fydd llawer o’r camau y mae’n rhaid i ni eu cymryd i amddiffyn bywyd gwyllt sydd dan fygythiad hefyd yn atebion naturiol i broblemau fel llifogydd ac erydiad y pridd a fyddan nhw hefyd yn helpu i ddal carbon a lleihau allyriadau net nwyon tŷ gwydr. Rhaid fabwysiadu agwedd sy’n gweld natur mewn ffordd gadarnhaol, gan gydnabod ei werth, ei roi e ar y llwybr at adferiad a thrawsnewid y byd i sicrhau y gall pobl, yr economi a natur ffynnu.
“Datganiad Caeredin”
Y newyddion da yw bod Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth yr Alban, eisoes wedi arwyddo ‘Datganiad Caeredin’. Mae hwn yn nodi parodrwydd llawer o lywodraethau, dinasoedd ac awdurdodau lleol ledled y byd, a elwir yn ‘llywodraethau is-genedlaethol’, i chwarae rhan lawn wrth gyflawni’r newid sylfaenol sydd ei angen i wyrdroi dirywiad byd natur. Yn fwy na hynny, siaradodd y Gweinidog Lesley Griffiths AS yn gadarnhaol am y syniad o osod targedau bioamrywiaeth statudol cyn y Nadolig, gan nodi fod hyn yn: “Rhywbeth y mae rhaid inni edrych arno … Dim ond chwe mis sydd gennym o’r Llywodraeth hon ac yn sicr fyddwn i’n hoffi gwneud cyhoeddiad yn ystod yr amser hwnnw. ”1.
Mae arnon ni angen ymrwymiadau o bob ochr
Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru â’i fryd ar sicrhau ymrwymiad oddi wrth Lywodraeth Cymru a phob plaid wleidyddol i gyflwyno targedau adfer natur statudol i Gymru yn y cyfnod sy’n arwain at y trafodaethau byd-eang hollbwysig eleni. Rhwng rwan a’r gynhadledd, pryd bynnag yn union y bydd yn digwydd, rydyn ni’n bwriadu gweithio gyda’n cefnogwyr a gyda ASau a Gweinidogion i helpu sicrhau fod hwn yn ddigwydd.
1. Ym Mhwyllgor CCERA yn y Senedd ar 12 Tachwedd 2020, paragraffau 120 a 125. Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig 12/11/2020 – Senedd Cymru (senedd.wales)

