Llawlyfr Aelodau’r Cyswllt
lawrlwythwch ein llawlyfr isod
Llawlyfr Aelodau’r Cyswllt
Yn Llawlyfr Aelodau’r Cyswllt cewch wybodaeth gynhwysfawr ynglŷn â sut mae rhwydwaith y Cyswllt yn gweithio a sut allwch chi wneud yn fawr o’ch aelodaeth. Mae’n gadael i chi wybod:
- Pwy ydy staff y Cyswllt
- Sut ydym ni’n cyfathrebu gyda’n haelodau, a sut allwch chi gyfathrebu gyda’r rhwydwaith
- Sut mae ein grwpiau gwaith yn gweithio, a sut i sicrhau bod eich materion chi ar yr agenda
- Y gwasanaethau a ddarperir gennym
- Ein prosesau llywodraethu, a’n hegwyddorion a’n trefnweithiau ar gyfer gweithio ar y cyd
- Sut i fod yn gynrychiolydd y Cyswllt
- Sut ydym ni’n gweithio gyda Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
Felly, os ydych yn newydd i’r rhwydwaith ac yn dymuno deall sut i wneud yn fawr o’ch aelodaeth, neu os hoffech wybod o’r newydd sut mae pethau’n gweithio yn y Cyswllt, bydd y llawlyfr yma’n ddefnyddiol i chi.
Cofiwch hefyd bod croeso i chi gynnig syniadau os ydych yn teimlo y byddai’n fuddiol cynnwys unrhyw beth arall yn rhifynnau’r dyfodol.
