Ein Hanes
Sefydlwyd i wneud gwahaniaeth
dod yn Aelod
Ein hanes
Wedi ei sefydlu yn 1990, lluniwyd Cyswllt Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad Cymru yn gyntaf i helpu gwahanol gyrff amgylcheddol, weithiau gydag amcanion gwrthwynebus, i gyfarfod yn rheolaidd a rhannu newyddion a barn ar faterion sy’n effeithio ar amgylchedd Cymru.
Ers hynny, mae’r corff wedi esblygu, gan newid enw a chanolbwynt i Gyswllt Amgylchedd Cymru yn 2002, a datblygu yn rhwydwaith o gyrff gyda buddion, anghenion a heriau gwahanol iawn. Mae rhai o’n haelodau yn enwau cyfarwydd, eraill yn llai adnabyddus ond cyn bwysiced o ran gwarchod a gwella rheolaeth yr amgylchedd yng Nghymru.
Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi datblygu dros y blynyddoedd a bellach mae gan y corff aelodaeth fawr o 30 o gyrff amgylcheddol, bywyd gwyllt a chefn gwlad amrywiol.
