Polisi Preifatrwydd Cyswllt Amgylchedd Cymru

Mae’r Cyswllt wedi ymrwymo i warchod preifatrwydd a diogelwch yr wybodaeth bersonol yr  ydym yn ei chynnal. Mae’r Cyswllt yn rheolwr data at bwrpasau Deddf Gwarchod Data 2018  a’r Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol a ddaeth i rym ar 25 Mai 2018. Mae Cyfarwyddwr y  Cyswllt yn gweithredu fel y Rheolwr Data dynodedig gyda chyfrifoldeb drwyddo draw am  sicrhau bod y corff yn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth hon.  

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn egluro sut a pham yr ydym yn casglu gwybodaeth bersonol  am aelodau’r Cyswllt a thrydydd person. 

Mae’r Cyswllt yn prosesu gwybodaeth bersonol i’n galluogi ni i ddarparu gwasanaeth  aelodaeth er budd y cyhoedd yn genedlaethol fel a nodir yn ein cyfansoddiad, yn cynnwys:  • gweinyddu cofnodion aelodaeth;  

• codi arian a hyrwyddo buddiannau yr elusen;  

• rheoli ein staff cyflogedig a’n gwirfoddolwyr; a  

• chynnal ein cyfrifon a’n cofnodion ein hunain.  

Ambell dro rydym yn cofnodi manylion cyswllt cynrychiolwyr cyrff trydedd blaid fel rhan o  weithgareddau gwaith cyfreithiol y Cyswllt. Mae eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel gyda ni  ac ni fydd byth yn cael ei rhyddhau i gwmnïau trydedd blaid ar gyfer eu pwrpasau marchnata.  

Amcan elusennol y Cyswllt, fel a nodir yn ein cyfansoddiad, yw hyrwyddo cadwraeth,  gwarchodaeth, defnydd cynaliadwy a mwynhad tawel a chyfrifol o dreftadaeth naturiol a  diwylliannol Cymru er budd y cyhoedd. 

Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data 

Rydym yn cadw data aelodau’r Cyswllt yn seiliedig ar fuddiannau cyfreithlon.  

Rydym yn cadw manylion cyswllt personol Ymddiriedolwyr y Cyswllt ar sail oblygiad  gyfreithlon.  

Pwy sy’n ei gasglu a sut mae’n cael ei gasglu? 

Mae’r Cyswllt yn casglu data drwy gyfrwng y broses o wneud cais am aelodaeth, megis  manylion cyswllt cynrychiolydd Cyngor y corff a chyfeiriad busnes y corff. Fe all unrhyw aelod  o dîm staff y Cyswllt gasglu eich data personol drwy gyfrwng eu gwaith a thrwy gyfrwng  rhyngweithio gydag aelodau, ymholwyr, cynghorwyr a chynrychiolwyr cyrff eraill.  

Mae’r Cyswllt yn defnyddio Dropbox ar gyfer Business a Microsoft Exchange i storio data  aelodaeth a manylion cyswllt eraill yn ddiogel yn y cwmwl. Mae holl staff y Cyswllt yn gallu  cael mynediad i’n systemau’n seiliedig ar gwmwl a defnyddir cyfrinair personol i fynd i mewn  i’r system a gwarchodaeth cyfrinair ar gyfer pob aelod o staff.  

Mae’r Cyswllt yn defnyddio Dropbox for Business a Microsoft Exchange i storio data aelodaeth  a manylion cyswllt eraill yn ddiogel yn y cwmwl. Mae ein systemau sy’n seiliedig ar gwmwl yn  hygyrch i holl staff y Cyswllt ac yn defnyddio cyfrinair personol a gwarchodaeth cyfrinair ar  gyfer pob aelod o staff. 

Mae’r Cyswllt hefyd yn defnyddio Basecamp, arf cyfathrebu ar-lein sy’n seiledig ar gwmwl, i  alluogi ein haelodau i gysylltu â’i gilydd a chydweithio’n fwy effeithiol. Er mai staff y Cyswllt  sy’n gweinyddu’r arf hwn, mae Basecamp yn galluogi ein haelodau i reoli eu data personol eu  hunain drwy eu cyfrif eu hunain, a dewis pa ffrydiau gwybodaeth i danysgrifio iddyn nhw.  

Defnyddio eich gwybodaeth 

Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth:  

• i adael i chi wybod ar beth yr ydym yn gweithio ac i rannu gwybodaeth sy’n  berthnasol i fuddiannau aelodau’r Cyswllt  

• i anfon ein hadroddiad monitro gwleidyddol wythnosol a chyfathrebiadau eraill atoch  • i’ch gwahodd i ddigwyddiadau’r Cyswllt, neu i ddigwyddiadau trydedd blaid eraill a all  fod o ddiddordeb 

• i ofyn am eich cefnogaeth gydag ymgyrchoedd y Cyswllt neu aelodau • i ofyn am eich cyngor neu fewnbwn i amrywiol ddarnau o waith y Cyswllt • i ofyn i chi enwebu a/neu bleidleisio ar faterion cyfansoddiadol, chwilio am  

gyfraniadau ariannol i brojectau, a chymryd rhan mewn holiaduron/arolygon y  Cyswllt. 

Datgelu eich gwybodaeth 

Ni fyddwn byth yn datgelu eich gwybodaeth i unrhyw un oddi allan i’r Cyswllt heblaw lle rydym  wedi sicrhau eich caniatâd neu fel arall yn cael gwneud hynny yn ôl y gyfraith.  

Gwefan y Cyswllt a gwefannau trydedd blaid 

Nid yw gwefan y Cyswllt yn defnyddio cwcis ac mae ein polisi cwcis ar ein gwefan. Fe all ein  gwefan ddarparu cysylltau gyda gwefannau eraill y tu hwnt i’n rheolaeth ni; mae ein polisi  preifatrwydd yn berthnasol i’n gwefan ni, y Cyswllt, www.waleslink.org, yn unig. Nid ydym yn  gyfrifol am bolisïau preifatrwydd safleoedd trydedd blaid eraill a all fod yn wahanol i’n rhai ni.  Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gynnwys neu gysylltau ar wefannau trydedd blaid.  

Storio gwybodaeth 

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol nes na fyddwn ei hangen mwyach i’ch darparu  chi â’n gwasanaethau/cynnyrch. Byddwn yn ceisio cadw gwybodaeth bersonol sydd gennym  amdanoch yn gyfredol, ond os credwch ein bod yn cadw gwybodaeth nad yw’n fanwl gywir  yna cofiwch gysylltu â ni i adael i ni wybod.  

Cael mynediad i’ch gwybodaeth 

Un unol â’r RhGDC (GDPR), mae gan unigolion yr hawl i gael:  

• cadarnhad bod eu data’n cael ei brosesu; 

• mynediad i’w data personol; a 

• gwybodaeth atodol arall. 

Gallwch wneud cais am gopi o’ch gwybodaeth bersonol ar lafar neu’n ysgrifenedig. Os hoffech  gael copi o’r wybodaeth bersonol amdanoch a gedwir gennym, y ffordd orau i gael gafael ar  yr wybodaeth yw drwy e-bostio Cyfarwyddwr y Cyswllt neu cysylltwch â ni: Cyswllt  Amgylchedd Cymru, Tramshed Tech, Uned D, Stryd Pendyris, Caerdydd, CF11 6BH neu ar  07498 228066. 

Cywiro gwybodaeth 

Mae gan unigolion hawl i gywiro data personol nad yw’n fanwl gywir a gellir gwneud hyn drwy  gysylltu â swyddfa’r Cyswllt un ai ar lafar neu’n ysgrifenedig (gweler y manylion cyswllt uchod).  

Hawl i ddileu 

Mae gan unigolion hawl i ofyn am ddileu eu data personol. Gelwir hyn hefyd ‘yr hawl i gael ei  anghofio’ (nid yw’r hawl yma’n absoliwt a dim ond o dan amodau penodol y mae’n berthnasol)  a gellir gwneud hyn drwy gysylltu â swyddfa’r Cyswllt un ai ar lafar neu’n ysgrifenedig (gweler  y manylion cyswllt uchod).  

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd 

Byddwn yn parhau i adolygu ein polisi preifatrwydd; mae’r polisi hwn yn cymryd lle pob  fersiwn flaenorol ac mae’n gywir o fis Tachwedd 2020 ymlaen. Cyhoeddir polisïau newydd ar  ein gwefan.  

Cysylltu â ni 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu sylwadau am ein polisi preifatrwydd cysylltwch os  gwelwch yn dda â Chyfarwyddwr y Cyswllt ar e-bost neu ar 07498 228066, neu ysgrifennwch  atom, Cyswllt Amgylchedd Cymru, Tramshed Tech, Uned D, Stryd Pendyris, Caerdydd, CF11  6BH.