Sut ddylen ni fod yn buddsoddi ym myd natur?

Rhag 20, 2022 | Ein blog

Llun: © Dustin Humes ar Unsplash

Ddydd Mawrth 13eg, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Gyllideb Drafft ar gyfer 2023 – 2024, gyda chynnydd bach ond calonogol mewn refeniw a chyfalaf ar gyfer PGG (Prif Grŵp Gwariant) Newid Hinsawdd o’i gymharu â’r llynedd. Mae’n datgan y bydd y refeniw yn £948m, cynnydd o’r £940m y llynedd, a bydd gwariant cyfalaf yn cynyddu o £1.576bn i £1.657bn, er bod sawl her o ran ateb chwyddiant presennol.

Fodd bynnag, gyda’r portffolio hwn yn cyfuno’r holl wariant ar drafnidiaeth – yn cynnwys gwella ffyrdd – hyd at wariant ehangach ar flaenoriaethau amgylcheddol, mae’n anodd diffinio faint yn union o’r swm yma fydd yn cael ei wario ar fyd natur a faint fydd yn cael ei wario ar liniaru neu wella systemau sy’n bodoli eisoes, heb o anghenraid gael unrhyw effaith ar fioamrywiaeth. 

Er bod y Senedd a Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ein bod yn wynebu argyfwng deuol o ran byd natur a’r hinsawdd, mae angen i ni fuddsoddi mewn ffyrdd i fynd i’r afael ag ef. Mynychodd Julie Hames, y Gweinidog Newid Hinsawdd, COP 15 ym Montreal yn ddiweddar, ac rydym yn croesawu’n fawr ymrwymiad Cymru i fabwysiadu targedau natur statudol. Ond amser a ddengys sut y byddwn yn eu hateb os na fyddwn yn buddsoddi mewn creu byd naturiol gwydn. Rydym o dan cryn bwysau gan fod un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddifodiant yn ein gwlad sydd eisoes wedi ei thlodi o ran byd natur.

Mae aelodau Cyswllt Amgylchedd Cymru yn datblygu strategaeth ar gyfer adfer byd natur, i’w rhyddhau yn y Flwyddyn Newydd, sy’n cynnwys amcangyfrif o gostau rhai o’r prif weithrediadau angenrheidiol i wrthdroi’r prinhad ym myd natur ledled Cymru. Yn y cyfamser, ac i amlygu’r mathau o ymyrraeth yr hoffem eu gweld yn digwydd gyda chyllideb Llywodraeth Cymru, rydym wedi amlinellu rhai o’r rhain o’n hadroddiad drafft isod.

Mae gorgyffwrdd sylweddol rhwng y gweithrediadau hyn a’r rhai sydd wedi eu hamlygu fel ymrwymiadau yn dilyn y Plymio Dwfn Bioamrywiaeth; o fewn y cynllun hwn mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen am gynyddu buddsoddiad ym myd natur.

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig

© Veronica White ar Unsplash

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’r Mesur Amaeth, sy’n gosod y fframwaith ar gyfer cyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd. Dyma gyfle gorau Llywodraeth Cymru i ddod â cholledion mewn byd natur i ben a’i wrthdroi ar y tir. Gyda bron i 90% o Gymru yn dir fferm, mae’n hanfodol bod cefnogaeth CFfC yn y dyfodol yn cael ei thargedu at feithrin ymarferion ffermio cyfeillgar i fyd natur ac ymarferion ffermio adferol sy’n buddsoddi mewn adfer cynefin ar ran byd natur. Bydd ail-fframio’r gyllideb wledig flynyddol, sydd bron yn £300m y flwyddyn, i wobrwyo ffermwyr am reoli eu tir mewn ffordd sy’n cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac yn gwireddu buddion amgylcheddol – fel sicrhau lle i fyd natur drwy adfer a rheoli gwrychoedd, coedlannau brodorol, gwelltir llawn blodau a mawnogydd – yn helpu rhywogaethau i adfer eu hunain, yn cloi carbon, yn lleihau llygredd ac yn gwella iechyd pridd.

Hoffem weld projectau peilot yn cael eu hariannu cyn gynted â phosibl i arddangos, ar y tir, sut all y math yma o ymarferion helpu i wella sefydlogrwydd economaidd busnesau fferm tra’n gwella’r amgylchedd ar yr un pryd. Gellid defnyddio’r projectau peilot yma fel hyfforddiant i helpu rheolwyr tir i newid i’r CFfC newydd. Hoffem hefyd weld Safonau Isafbwynt Cenedlaethol yn sail i ymarfer o’r cychwyn er mwyn sicrhau ein bod yn dod â degawdau o ddigwyddiadau llygru amaethyddol niferus sy’n niweidio ein hafonydd a’n llynnoedd i ben. Mae’n rhaid cyfuno hyn gyda monitro a gorfodaeth cydymffurfio a dim ond wrth ddarparu Cyfoeth Naturiol Cymru gyda hwb sylweddol o ran gallu y gellir sicrhau hyn. Yn seiliedig ar amcangyfrifon CNC ei hun, ac i’w wneud yn iawn, byddai angen rhwng 60 a 200 aelod newydd o staff sydd, yn ein tyb ni, yn golygu bod angen £12m y flwyddyn.

Adfer bioamrywiaeth morol

Mae angen i adferiad byd natur ddigwydd yn ein moroedd hefyd yn ogystal ag ar dir. Pwrpas Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru oedd ein harwain mewn penderfyniadau’n seiliedig ar y môr, ond ar hyn o bryd dydy o ddim yn ddigonol i gyfeirio datblygiadau i’r lleoliadau priodol a fyddai’n osgoi niwed i ecosystemau, nag i wneud y gorau o gyfleoedd dros fywyd gwyllt a storio carbon glas.

Rydym yn pwyso am fwy o adnoddau yn Llywodraeth Cymru i wireddu cynllun strategol gwell sy’n ateb y gobaith hwn. Byddai gwell cynllun morol yn gwarchod ein cynefinoedd a’n rhywogaethau mwyaf sensitif ac yn rhoi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr. Er enghraifft, dylai alluogi bod newid i ynni adnewyddadwy yn digwydd mewn ffordd sy’n bositif i fyd natur.

Bydd adferiad uniongyrchol cynefinoedd dolydd morwellt, gwymon a morfeydd hallt o amgylch arfordir Cymru yn gwella ansawdd dŵr, yn cloi carbon, yn lleihau risgiau erydiad a llifogydd arfordirol, a chynnal ein bywyd gwyllt iach fydd yn hwb i dwristiaeth arfordirol. Rydym yn eiriol dros fuddsoddiad o oddeutu £9m y flwyddyn, a fyddai’n talu am bron bob agwedd o greu cynefin morol. Dydy’r ffigur ddim yn cynnwys yr hyn fyddai ei angen yn nhermau adnoddau i ddiweddaru’r Cynllun Morol Cymru i rhywbeth mwy gofodol. 

Gwarchod y Goedwig Law Geltaidd

Mae’r Goedwig Law Geltaidd, cynefin prin sydd o dan fygythiad yng Nghymru, yn gartref i lu o blanhigion ac anifeiliaid prin. Mae gorbori a rhywogaethau ymledol yn bygwth llawer o’r ardaloedd o goedwig law sydd ar ôl, ac mae angen i ni ei hadfer a’i ehangu gymaint â phosibl. Mae hyn wedi bod yn digwydd eisoes yn Eryri, ond mae angen mwy o fuddsoddiad i ehangu hyn i ardaloedd eraill; rydym yn amcangyfrif y byddai hyn yn costio £24.5m y flwyddyn.

Hefyd, mae angen cysylltu’r rhannau presennol o’r goedwig law â’i gilydd a chreu ardaloedd newydd o goedwigoedd glaw. Dylai adferiad hon a choedlannau hynafol eraill fod yn ganolog i sicrhau gwireddu Coedwig Cenedlaethol Cymru.

Safleoedd gwarchodedig

© Llun: Jack B ar Unsplash

Yn ddiweddar, yn Plymio Dwfn Bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru, rhoddwyd cydnabyddiaeth i rôl bwysig ein safleoedd gwarchodedig a dynodedig o ran adfer byd natur a gwireddu ein targed ‘30 x 30’ (nod i warchod a rheoli o leiaf 30% o’r tir a 30% o’r môr dros fyd natur erbyn 2030). Canlyniad ‘Plymio Dwfn’ oedd bod angen i ni drawsnewid safleoedd gwarchodedig Cymru, ar dir ac yn y môr, i rwydweithiau sy’n well, yn fwy, ac yn cael eu cysylltu’n fwy effeithiol. Hoffem weld £30m y flwyddyn yn cael ei roi tuag at wireddu eu hymrwymiad drwy sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn adnoddau digonol i wireddu monitro a rheolaeth safleoedd sy’n bodoli eisoes, yn ogystal â llunio dynodiadau newydd i ateb y targed.

Medrau a gweithlu

Rydym wedi amlygu’r gallu ychwanegol angenrheidiol sydd ei angen ar CNC i wireddu rheoli a monitro safleoedd gwarchodedig, monitro a gorfodaeth amgylcheddol a llawer o orchwylion eraill. Rydym hefyd wedi amlygu rôl ganolog y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gydag adferiad byd natur; mae’n cael ei gydnabod yn eang na fydd modd ateb uchelgeisiau y cynllun os nad yw’r gwasanaeth ymgynghorol medrus angenrheidiol ar gael i dirfeddianwyr.

Wrth ddilyn y trywydd hwn, rydym yn croesawu diddordeb Llywodraeth Cymru mewn datblygu Gwasanaeth Natur Cenedlaethol (GNC). Fe all y GNC fod yn fodd i ganolbwyntio buddsoddiadau, llenwi’r bwlch o ran medrau, a chynyddu gallu ein gweithlu casgliadol dros adferiad byd natur.

Yn ogystal â darparu ariannu ar gyfer datblygu yn 2022, gobeithiwn y bydd Llywodraeth Cymru yn cadarnhau ariannu ar gyfer project arddangos yn y flwyddyn ariannol i ddod.

© Cymdeithas Eryri

Rydym yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r negeseuon priodol, ond mae angen i hyn fod yn gyfatebol gyda’r buddsoddiad priodol er mwyn i ni obeithio am adferiad byd natur Cymru. Mae amser yn prinhau i fyd natur ac mae arnom angen gweithredu gyda phenderfyniad.