Ar y 6ed o Fai cynhelir etholiad i Senedd Cymru. Er y bydd llu o gwestiynau ar yr agenda yn sgil pandemig Cofid, mae’n hanfodol inni sicrhau y bydd yr amgylchedd yn cael ei le yn y drafodaeth.
A dyma lle gallwch chi helpu! Does dim llais gan bilipalod na gwyfynod ond bydd canlyniad yr etholiad yn effeithio ar eu dyfodol, ynghyd â blaenoriaethau a pholisïau’r gwleidyddion a’r pleidiau a gynrychiolir yn y Senedd newydd.
Rydym yn wynebu tri argyfwng, sef: pandemig byd-eang, newid hinsawdd a cholled bioamrywiaeth. Rydym yn byw trwy oes tranc llu o rywogaethau. Dangosodd adroddiad diweddar Gwarchod Glöynnod Byw, ‘State of Moths’, fod niferoedd y gwyfynod mawr ym Mhrydain wedi gostwng o ryw 33% dros y 50 mlynedd diwethaf. Ond yng Nghymru, ynghyd â rhannau sylweddol o Loegr, mae’r ffigwr bron â chyrraedd 40%. Mae rhai rhywogaethau glöynnod byw a gwyfynod yn crogi ar edau. Un esiampl frawychus yw’r Brith Brown sy’n gyfyngedig erbyn hyn i un safle yng Nghymru, sef Cwm Alun ym Morgannwg.
Nid yw’n syndod i neb mai nid problem i löynnod byw a gwyfynod yn unig yw dirywiad rhywogaethau. Yng Nghymru, mae’r Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR) a gyhoeddwyd yn gynharach eleni wedi datgelu bod ‘gwydnwch ecosystemau’ yn dirywio yn gytûn â thueddau ledled y byd. Mae’n amlwg bod yr holl ymrwymo i weithredu yn annigonol os ydym am atal colled bioamrywiaeth.
Mae’r heriau a wynebwn ni’n anferth, ond os cawn ni arweinyddiaeth eofn a gweithredu penderfynol rydym yn gwybod bod modd inni newid cyfeiriad pethau. Rhaid inni weithredu yma yng Nghymru gan chwarae ein rhan yn yr ymdrechion ledled y byd i fynd i’r afael â cholled bioamrywiaeth a newid hinsawdd.
Mae Gwarchod Glöynnod Byw Cymru’n cyfrannu i’r drafodaeth, fel rhan o Gyswllt Amgylchedd Cymru (WEL). Rhwydwaith yw hwn o NGOs amgylcheddol o’r un meddylfryd sy’n gweithio ar y cyd i ddylanwadu ar drafodaethau ynghylch polisïau o bwys. Ar gyfer yr etholiadau nesaf hyn rydym wedi llunio Maniffesto cyffredin yn pwysleisio’r materion sydd o bwys a’r hawliadau sy’n cyfateb iddynt.
Dyma foment lle gall pawb yng Nghymru helpu i roi llais i’n pilipalod a’n gwyfynod ni. Wrth inni siarad neu gysylltu â darpar ymgeiswyr, dyma dri phwynt isod lle mae gennym gyfle i berswadio gwleidyddion i gefnogi mesurau a fydd yn helpu i wireddu newidiadau ystyrlon:
1. Ymrwymiad i ddiwygio’r drefn gyllido amaethyddol fel y bydd ffermwyr yn cael eu cefnogi a’u gwobrwyo am reoli’r tir er lles bywyd gwyllt a gostwng allyriadau carbon yn ogystal â chynhyrchu bwyd. Mae’n bosibl cyflawni’r tri nod hyn ar yr un pryd, ac mae rhai ffermwyr wedi dangos y ffordd wrth arddangos sut yn union y gellir gwneud hyn. Ond mae angen inni sefydlu egwyddor o blaid ‘arian cyhoeddus er lles y cyhoedd’ gan roi terfyn ar gymorthdaliadau uniongyrchol. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n bosibl i ail-ddyrannu cyllid a’i wario ar broses gytbwys weddnewidiol o ledaenu dulliau ffermio a all greu dynesiad mwy cynaliadwy at amaeth dros y tymor hir. Byddai hyn yn arwain at un o’r newidiadau mwyaf buddiol a allai gyfrannu at adfer poblogaethau gwyllt ffyniannus yng nghefn gwlad Cymru.
2. Ymrwymiad i osod targedau cyfreithiol rwymol yng nghyswllt adfer byd natur. Rhaid i hyn gwmpasu targedau ar gyfer helaethrwydd a dosbarthiad glöynnod byw a gwyfynod a rhywogaethau gwyllt eraill, ynghyd â lleihau’r perygl y byddant yn diflannu.
3. Un syniad arloesol newydd a fyddai’n rhoi hwb i Adferiad Gwyrdd fyddai sefydlu Gwasanaeth Natur Cenedlaethol. Gallai hyn greu 7000 o swyddi amgylcheddol a fyddai’n gweithio at reoli ac adfer cynefinoedd, gwella a chreu mannau gwyrdd dinesig a llawer mwy! Bydd y pandemig yn dileu llu o swyddi gan beri diweithdra torfol, a hynny’n enwedig ymhlith pobl ifanc a rhai mewn grwpiau sydd dan anfantais neu’n is-gynrychioledig. Dyma wir gyfle i helpu’r rhai y mae’r pandemig wedi eu niweidio fwyaf, yn ogystal â gwella’r rhagolygon i wahanol rywogaethau a chynefinoedd a’r hinsawdd.
Gofynnwch i’r ymgeiswyr felly sut maen nhw’n bwriadu gweithredu i wneud gwahaniaeth, yn enwedig ynghylch y cwestiynau yr ydym wedi sôn amdanynt yma. Os carech chi chwarae eich rhan, ewch at y wefan ‘Dros Bwy Galla i Bleidleisio’ sy’n ffordd ddefnyddiol o ddarganfod pwy yw’r ymgeiswyr yn eich ardal chi.
A phan ddaw diwrnod yr etholiad, cofiwch bleidleisio o blaid natur a’r hinsawdd! Diolch yn fawr.
Blog gan:
Clare Williams, Uwch Swyddog Cadwraeth – Cymru, Gwarchod Glöynnod Byw
Chris Corrigan, Swyddog Polisi, Gwarchod Glöynnod Byw
Credyd delwedd: M. Sproule, Gwarchod Glöynnod Byw

