Digwyddiad morol yn neud sblash!

Gor 30, 2021 | Ein blog

Blog Gwestai: Gan Billie-Jade Thomas o Gymdeithas Cadwraeth Forol

Y mis diwethaf, cynhaliodd y Gymdeithas Cadwraeth Forol (MCS) ddigwyddiad ar-lein arbennig i ddangos i Aelodau’r Senedd a rhanddeiliaid eraill sut y gallwn i gyd weithio gyda’n gilydd i achub moroedd Cymru.

‘Y degawd tyngedfennol: troi’r llanw ar y dirywiad yn iechyd moroedd Cymru‘, noddwyd gan Huw Irranca-Davies AS a derbyniodd gefnogaeth drawsbleidiol, gyda Llyr Gruffydd AS, Janet Finch-Saunders, Jenny Rathbone AS a Carolyn Thomas AS ymhlith y rhai a oedd yn bresennol.

Ymhlith y siaradwyr gwadd roedd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, AS a oedd yn cydnabod amgylchedd morol ‘cyfoethog ac amrywiol’ Cymru a’r angen dybryd i’w amddiffyn. Wrth siarad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gydbwyso ein hanghenion economaidd â gwarchod byd natur, meddai –

‘Wrth gwrs, rydyn ni eisiau ailadeiladu ein heconomi ond rydyn ni am wneud hynny mewn ffordd sy’n gwella ein hamgylchedd naturiol, a’i wneud yn fwy gwydn, gan gynnwys ein hamgylchedd morol.

‘Mae diwydiannau morol fel twristiaeth ac ynni adnewyddadwy yn hynod o bwysig ond maen nhw’n bwysig yng nghyd-destun amgylchedd morol y dylai Cymru fod yn falch ohono, a dyna beth yr ydym am ei wella a’i amddiffyn.’

Nododd y Gweinidog hefyd nad yw ‘ailadeiladu’r economi yn rhywbeth sy’n gwrthdaro â diogelwch amgylcheddol a morol da.’

Ymhlith y siaradwyr gwadd eraill roedd Sandy Luk, Prif Weithredwr MCS a’r biolegydd bywyd gwyllt a’r ddarlledwraig Lizzie Daly, a siaradodd yn y digwyddiad yn fyw o arfordir Sir Benfro.

Hefyd yn ystod y digwyddiad dangosodd MCS eu fideo newydd, am y tro cyntaf, wedi’i gyflwyno gan Iolo Williams, yr arbenigwr bywyd gwyllt,  i ddangos beth sy’n gwneud moroedd Cymru mor anhygoel o arbennig a sut y gallwn sicrhau eu hiechyd yn y tymor hir. Rydym wedi hefyd lansio addewid morol newydd ar gyfer yr Aelodau’r Senedd i arwydd, fel addo i weithio ar pob agwedd o adferiad cefnfor.

Gan fod y digwyddiad hefyd wedi’i ddarlledu’n fyw ar sianel YouTube Wales Environment Link, gellir ei wylio’n ôl yn llawn yma.

Llun: © Sarah Perry