Clear Waters: Llwybr tuag at dryloywder ynghylch gwariant amgylcheddol y sector dŵr

Hyd 16, 2026 | Ein blog

Blog ar y cyd gan weithgorau dŵr Cyswllt Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad a Cyswllt Amgylchedd Cymru.

A ninnau’n rhanddeiliaid amgylcheddol, mae gennym ddiddordeb ym mhroses cynllunio busnes pum mlynedd y sector dŵr ers amser am mai dyma’r broses sy’n dyrannu cyllid ar gyfer bodloni goblygiadau a dyheadau amgylcheddol. Ond er ei bod yn rhwydd dod o hyd i grynodebau o’r hyn a fydd yn cael ei wario, mae’n anos cael darlun o fanylion yr hyn a fydd yn cael ei gyflawni.

Mae’r symiau uchaf erioed wedi cael eu dyrannu ar gyfer 2025-30 er mwyn i gwmnïau dŵr wella gwasanaethau i gwsmeriaid a chyflawni gwell canlyniadau ar gyfer yr amgylchedd. Ond nid oes gan hyd yn oed y rheiny sydd â diddordeb yn yr hyn a gyflawnir – cwsmeriaid, grwpiau amgylcheddol, defnyddwyr dŵr, ac eraill – ddealltwriaeth glir bob amser o beth fydd hyd a lled y buddsoddiad hwn. Beth fydd hyn yn ei olygu i nentydd sialc, llynnoedd eiconig, neu eog mewn trafferth? Ffurfiwyd y bartneriaeth Clear Waters i sicrhau bod rhanddeiliaid yn gallu gweld beth y mae’r buddsoddiad hwnnw’n ei gyflawni.

Mae partneriaid Clear Waters wedi gweithio gyda’i gilydd i ddechrau trosi’r drafodaeth a’r syniadau yn gamau gweithredu ymarferol, cydlynol. Rydym wedi lansio cynllun gweithredu drafft ac mae arnom angen eich help chi i lunio’r camau nesaf.

Cynllun Gweithredu

Mae’r cynllun a rennir yn canolbwyntio ar sicrhau bod gwybodaeth am wariant y sector dŵr ar yr amgylchedd yn hawdd ei darganfod, ei deall a’i defnyddio. Gellid cyflawni rhai gwelliannau posibl yn gyflym, megis arwyddion cliriach a gwell mapiau rhyngweithiol, tra bydd eraill yn cymryd mwy o amser, gan gynnwys creu un man lle gall pobl gyrchu’r holl ddata a gwybodaeth berthnasol am ddŵr.

I lywio’r cynllun, buom yn siarad â chwsmeriaid, grwpiau amgylcheddol a rhanddeiliaid eraill i feithrin gwell dealltwriaeth o’r wybodaeth y mae ar bobl ei hangen a sut y maent am gael mynediad at yr wybodaeth honno. Roedd hyn wedi ein helpu i adeiladu cynllun o amgylch anghenion cynulleidfaoedd penodol.

Dŵr yn yr Uwch-gynhadledd Wyllt

Aethom â rhai o’r syniadau a oedd yn ein cynllun i Uwch-gynhadledd Wyllt Cyswllt Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad ym mis Medi. Roedd yn bleser gennym groesawu tua 70 o unigolion brwdfrydig i sesiwn ymneilltuo Clear Waters. Gofynasom am eu barn ar dair prif thema:

Thema 1: Gwella mapio geo-ofodol presennol – dywedodd y rhai a oedd yn bresennol wrthym fod arnynt eisiau offeryn hawdd ei ddefnyddio sy’n eu helpu i ddeall beth sy’n digwydd yn lleol, pa gamau sy’n cael eu cymryd, a’r canlyniadau disgwyliedig.

Thema 2: Porth data dŵr – roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cefnogi llwyfan data yn gryf ond yn pwysleisio bod ymddiriedaeth, llywodraethu a hygyrchedd yn fwy hanfodol na thechnoleg.

Thema 3: Dull cyfathrebu traws-sector – ymddiriedaeth a ddaeth i’r amlwg fel y mater mwyaf blaenllaw trwy gydol y drafodaeth hon. Nododd y rhai a oedd yn bresennol fod cyfathrebu yn her meithrin ymddiriedaeth yn hytrach na phrofiad rhannu gwybodaeth yn unig.

Bydd yr hyn a ddysgwyd yn llywio’r modd y byddwn yn mireinio ac yn blaenoriaethu gweithredoedd a nodir yn y cynllun gweithredu drafft.

Cymryd rhan

Rydym ’nawr am glywed a oedd y camau gweithredu posibl yng nghynllun gweithredu drafft Clear Waters yn ei gwneud yn haws i chi ganfod, llywio a deall yr wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddi.

Llenwch ein harolwg ar-lein byr erbyn y dyddiad cau, sef 6 Tachwedd.

Rydym am glywed gan ystod eang o ddiddordebau er mwyn cychwyn sgwrs fwy eang a mynd i’r afael ag unrhyw safbwyntiau coll – felly helpwch ni trwy rannu’r arolwg â’ch rhwydwaith ehangach.

Bydd partneriaid Clear Waters yn ystyried pob ymateb i’r arolwg, ochr yn ochr â gweithgarwch ymgysylltu ehangach, cyn gwneud penderfyniadau ynghylch y cynllun gweithredu sy’n datblygu. Byddwn hefyd yn edrych ar werth am arian, perchnogaeth, a fforddiadwyedd camau gweithredu gwahanol – gan gydnabod cyfyngiadau cyllidebol. Rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ochr yn ochr â’r camau nesaf arfaethedig yn y flwyddyn newydd.

Trwy ddarllen y cynllun, llenwi’r arolwg a’i rannu ag eraill, gallwch helpu i droi uchelgais partneriaid Clear Waters yn gynnydd ymarferol.