Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi croesawu galwadau rhyngwladol i amddiffyn 30% o’r tir a’r môr ar gyfer natur erbyn 2030. Mae’r galwadau hyn wedi cael eu croesawu’n gyhoeddus gan Lywodraethau’r Alban a’r DU yn barod. Yn y ddogfen hon, rydym yn amlinelli’r amodau sy’n angenrheidiol, yn ein tyb ni, i amddiffyn tir a môr yn effeithiol a’u cyfrif tuag at y targed o 30%. Rydym yn dadlau y dylai ardaloedd gael eu hamddiffyn yn y tymor hir, eu rheoli’n dda neu mewn cyflwr da neu’n gwella, er mwyn cyfrif tuag at y targed. Mae’r ddogfen lawn hon yn Saesneg yn unig, ond mae’r crynodeb gweithredol yn yn Gymraeg, isod.
