Yr hyn sy’n nodweddu’r llynedd ydy diffyg cynnydd yn nhrafodaethau Brexit gyda’r UE a’r diffyg eglurder o ganlyniad i hynny ar reolaeth amgylcheddol, safonau a pherthnasau masnach. Nid yw’n syndod bod ein prif ganolbwynt wedi parhau ar sicrhau’r warchodaeth a’r gwelliant amgylcheddol gorau o ’broses’ Brexit, y ddau drwy weithio’n uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru ac wrth ddylanwadu ar San Steffan drwy gyfrwng ein partneriaid yn y DU.
Ledled Cymru, mae awdurdodau lleol wedi datgan argyfyngau hinsawdd ac ecolegol; ni ddylid colli’r cyfleoedd a ddaw drwy Brexit, ar dir ac ar y môr, i gyflwyno polisïau sy’n mynd i’r afael â’r ddau argyfwng dirfodol yma. Fel rhwydwaith, rydym yn gwneud pob dim posibl i’n gyrru ar hyd y llwybr i gyfeiriad dyfodol mwy amgylcheddol sicr.
Fel y cynrychiolydd dros yr amgylchedd ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, gyda’i amcanion o hyrwyddo cymuned, polisi a gwasanaethau cyhoeddus, rydym yn sicrhau bod pryderon cymdeithasol yn rhan annatod o’n holl waith.
Gyda golwg ar Gymru yn dilyn Brexit, ymgynghorwyd gydag aelodau a chychwynnwyd ar gynhyrchu ein strategaeth newydd yn ystod misoedd olaf y flwyddyn. Tuag at ddiwedd mis Mawrth, daeth difrifoldeb ymddangosiad Covid-19 yn amlwg gyda chyhoeddiad y pandemig ac wrth i ni symud tuag at y clo mawr.
Mae manylion ein cyraeddiadau dros y deuddeg mis diwethaf yn yr adroddiad hwn. Dim ond trwy gyfraniad amser ein haelodau tuag at wireddu amcanion y rhwydwaith y bu hwn yn bosibl, amser sy’n gyfystyr yn ariannol i ddyblu ein hincwm drwy grantiau. Bu’r gwaith hwn yn bosibl oherwydd cefnogaeth ariannol parhaol ein noddwyr – Sefydliad John Ellerman, Sefydliad Esmée Fairbairn, Sefydliad Waterloo, Coed Cadw ac WWF Cymru. Rydw i’n ddyledus i’r rhain, ein staff, ein haelodau ac fy nghyd-Ymddiriedolwyr am sicrhau bod y Cyswllt yn parhau i ddatblygu a gwireddu ar ran amgylchedd Cymru.
Yn olaf, ac yn drist iawn, rhaid i mi adrodd bod ein Trysorydd, Dr Stephen Marsh-Smith, wedi marw yn ystod y cyfnod yr oedd yr adroddiad hwn yn cael ei baratoi. Roedd Stephen yn ymgyrchydd glew a llwyddiannus dros ein hafonydd a roddodd yn hael o’i amser, ei brofiad a’i gyngor i’r rhwydwaith. Rydym yn ei golli.
Roger Thomas
Cadeirydd
