Maniffesto i’r Etholiadau Senedd 2026

Hyd 3, 2025 | Datganiadau barn, Maniffesto

Yn Mai 2026, bydd Llywodraeth newydd i Gymru yn cael eu hethol; y llywodraeth hon fydd yr un fydd yn llwyddo neu fethu i gyrraedd ein targedau natur 2030. Yn y maniffesto hwn, mae aelodau Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi amlinellu eu gofynion pwysicaf i greu Cymru natur-gyfoethog.

Mae ein graffigwaith yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru natur-gyfoethog; gwlad lle cyraeddwn ein targedau natur a
charbon 2030. Ar y llaw arall, mae ein graffigwaith ar gyfer Cymru sy’n -natur dlawd yn dangos sefyllfaoedd all ddigwydd
os parhwn i ystyried byd natur fel y flaenoriaeth isaf; Cymru lle mae cynefinoedd yn cael eu diraddio, rhywogaethau’n cael
eu colli a’n haer, ein dŵr a’n pridd y tu hwnt i adfer. Os bydd yr amgylchedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth isaf yn agenda
Llywodraeth Cymru, y dyfodol hwn sy’n natur-dlawd yw’r un mae perygl i ni lithro iddo.

Os gwerthfawrogwn yr amgylchedd, yn buddsoddi ynddo, ac yn gwrando ar arbenigwyr, gallwn fwynhau dyfodol sy’n natur-gyfoethog, fel mae pob un ohonom yn dymuno – ac angen – weld.

Rhagflas o’n ffermydd, afonydd, a moroedd natur-gyfoethog a natur-dlawd; gydag esboniwr llawn yn y maniffesto