Blog gwadd: Mandy Marsh, Swyddog Prosiect Cymru, Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol
Efallai nid pob dim. Be ydy PR24 beth bynnag?
Pob pum mlynedd, mae Ofwat yn cynnal Adolygiad Prisiau cwmnïau dŵr; cynhelir y nesaf yn 2024, felly dyna egluro PR24. Adran llywodraethol anweinidogol yw Ofwat a sefydlwyd yn 1989 pan gafodd diwydiant dŵr a charthffosiaeth Cymru a Lloegr eu preifateiddio. Oherwydd mai monopoli, mwy neu lai, yw cwmnïau dŵr, sefydlwyd Ofwat fel corff rheolaethol i oruchwylio safonau cwmnïau dŵr – cyfreithiol, amgylcheddol a chymdeithasol – a sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg ac nad ydyn nhw’n cael eu cosbi gan y diffyg cystadleuaeth. Mae PR24 yn gosod rheolaeth ar brisiau a safonau ar gyfer cwmnïau dŵr a charthffosiaeth ar gyfer 2025-2030.
Mewn ymateb i broses ymgynghori PR24, cyhoeddodd Cyswllt Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (WCL) Lloegr ei faniffesto i Blueprint for PR24 gan amlinellu y dull o weithredu yr hoffen nhw i PR24 ei ddilyn. Fodd bynnag, mae cwmnïau dŵr Cymru a Lloegr yn gweithredu’n hollol wahanol; mae gan Loegr naw cwmni dŵr gyda rhanddalwyr mae 70% o randdaliadau ym mherchnogaeth cyrff o dramor, ond dim ond dau sydd yng Nghymru, Dŵr Cymru (DC) a Hafren Dyfrdwy (HD). Mentr nad-am-elw heb randdalwyr yw DC ac mae’n rheoli cyflenwadau dŵr a dŵr gwastraff ledled y rhan fwyaf o Gymru. Mae HD yn rhan o grŵp Hafren Trent ac mae’n rheoli’r rhannau o ddalgylchoedd yr afonydd Dyfrdwy a Hafren yng ngogledd ddwyrain Cymru.
Nid yn unig hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dau ddarn o ddeddfwriaeth amgylcheddol blaengar (Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (DLlCD) 2015 a Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016) sy’n canolbwyntio sylw ar sicrhau dycnwch ecosystemau drwy gynnal a gwella bioamrywiaeth, ac mae’r rhain yn gosod dyletswyddau cyhoeddus sydd ambell dro’n wahanol iawn (i Loegr) o ran yr amgylchedd. Gyda hynny mewn golwg, yma yng Nghyswllt Amgylchedd Cymru penderfynwyd efelychu’n ddigywilydd gwaith y WCL (ond nid go iawn – rydym wedi cydweithredu drwy gydol y broses) a’i wneud yn berthnasol i Gymru yn ein Glasbrint i Gymru ein hunain.
Dydy’r broses Adolygu Prisiau (PR) ddim yn un syml ond dyma gipolwg sydyn arni:
- Llywodraeth Cymru’n dweud wrth Ofwat pa bolisïau llywodraethol y maen nhw’n disgwyl eu gweld yn cael eu gwireddu yn y PR24 trwy gyfrwng ei Ddatganiad Blaenoriaethau Strategol ac Amcanion;
- Ofwat i gynhyrchu methodoleg i gyflenwi gwybodaeth i gwmnïau dŵr fel eu bod yn gwybod beth sydd angen iddyn nhw ei wneud i fod yn gyfrifol ac yn deg i’w cwsmeriaid;
- Dyletswydd ar Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) (yn unol â Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol) i ddilyn egwyddorion Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol;
- Yn seiliedig ar fethodoleg PR24 Ofwat, CNC i gydweithio gyda chwmnïau dŵr i gynhyrchu’r Cynllun Amgylchedd Cenedlaethol (CAC) sy’n amlinellu beth sydd angen i gwmnïau dŵr ei wneud i ateb anghenion amgylcheddol, deddfwriaethol a pholisi;
- Yn seiliedig ar y Cynllun Amgylchedd Cenedlaethol (CAC), CNC a chwmnïau dŵr yn adnabod pa flaenoriaethau fydd yn cael eu gwireddu yn y Cynllun Rheoli Asedau (CRhA) pob 5-mlynedd nesaf;
- Cwmnïau dŵr yn addo i’w cwsmeriaid y byddan nhw’n perfformio ar lefel benodol yn unol â’r CRhA (2025-2030).
Ond yn hytrach na mynd i fanylion pellach ynglŷn â manylion trefniadaeth â phwy yn union sy’n gwneud beth, edrychwn ar y mater ehangach.
Yn y byd datblygedig rydym fel arfer yn cymryd moethusrwydd dŵr diogel a glân o’r tap yn ganiataol, yn ogystal â threfn gwaredu ein gwastraff. Fel cymdeithas mae gennym atgof gasgliadol o ddyfroedd llawn cemegau’r Chwyldro Diwydiannol, strydoedd tlawd Fictoraidd yn lledaenu colera mewn dŵr a’r ‘Drewdod Mawr’ a arweiniodd at wyrdroi system garthffosiaeth Llundain gan Bazalgette, ac mae’n ymddangos ein bod yn dal i fod yn optimistaidd y byddwn ni, fel cymdeithas, yn parhau i sicrhau ‘cynnydd’ ac y bydd pethau’n parhau i wella. Wedi’r cwbl, pam fyddai unrhyw un yn dewis camu tuag at yn ôl i sefyllfa waeth?
Yn drist iawn, does dim sail i’r optimistiaeth hwn. Ystyriwch y ffeithiau hyn:
- Dim ond 40% o afonydd Cymru sy’n ateb Statws Ecolegol Da ac maen nhw wedi methu â chyrraedd targedau blaenorol.
- Mae poblogaethau o deulu’r eog yn prinhau’n ddifrifol ym mhob afon, ac mae rhywogaethau a fu ar un pryd yn gyffredin, fel y gragen las perl dŵr croyw, cimwch yr afon crafanc-wen a llygoden bengron y dŵr mewn perygl mawr o ddiflannu o’r tir.
- Yn 2021, dangosodd asesiad o afonydd ACA Cymru (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig) bod 61% o 107 arwynebedd dŵr yn methu cyrraedd targedau ffosffad.
- Mae gollyngiadau gormodol o garthffosiaeth amrwd i afonydd a nentydd yn digwydd, gyda thystiolaeth glir bod rhai gollyngiadau y tu hwnt i’w cyfyngiadau cyfreithiol. Roedd y risg i bobl fynd yn sâl wrth ymdrochi o ganlyniad i E.coli neu lid y stumog a’r perfedd (gastroenteritis) cyn uched yn 2020 ag yr oedd yn yr 1990au.
- Er bod gan Gymru enw fel gwlad lle ceir llawer o law, rydym ar hyn o bryd yn cymryd mwy o ddŵr o’r system na’r hyn sy’n cael ei ollwng gan y cymylau. Rhagwelir y bydd hyn yn gwaethygu o ganlyniad i fwy o ofyn a newid hinsawdd. Yng Nghymru, mae’r gostyngiad amcanol o ran cwymp glaw’r haf erbyn 2050 gryn dipyn yn uwch na’r cynnydd amcanol yng nghwymp glaw’r gaeaf.
- Nid pobl Cymru’n unig sy’n defnyddio ‘dŵr Cymru’. Rhagwelir y bydd cyflenwad dŵr gwledydd Prydain cyfan yn cwympo o 7% erbyn 2045.
- Mae’r ddau gwmni dŵr yng Nghymru’n gollwng yr hyn sy’n cyfateb i 243 litr yr eiddo y dydd (2021-2022).
Mae ymateb Cyswllt Amgylchedd Cymru i PR24 felly wedi canolbwyntio ar themâu tebyg i Lasbrint yr WCL, ond gyda mwy o bwyslais ar ddyletswyddau yn unol â chyfraith Cymru. Oherwydd bod Lloegr a Chymru’n cael eu hystyried fel eitem sengl mor aml, fe all fod yn anodd dod o hyd i ystadegau neu fesuriadau man cychwyn sy’n berthnasol i Gymru’n unig. Mae angen i Ofwat wneud mwy o ran ystyried y gwahaniaethau yma, yn hytrach nag ystyried Cymru fel ‘atodiad ychwanegol’. O ystyried y gwahaniaethau parthed sut mae cwmnïau Cymru a Lloegr yn gweithredu, sut allwn ni wybod beth sy’n gwella a beth sydd angen mwy o sylw heb y data man cychwyn yma? Os bydd data’n cael ei newid yn llwyr wrth gynnwys Cymru gyda Lloegr bydd yn anodd iawn gweld a ydym yn cyrraedd targedau bioamrywiaeth Cymru.
Rydym wedi amlinellu ein pryderon a’n hargymhellion o dan pedwar prif bennawd:
Sefydlu’r ethos
Atebion Dalgylch ac Atebion sy’n Seiliedig ar Fyd Natur (ADSFN) [Catchment and Nature-based Solutions (C&NBS)] – cydweithio gyda thirfeddianwyr i weithio ar raddfa’r dalgylch. Efallai ei fod yn ymddangos yn hollol amlwg ond, yn y pen draw, bydd yr hyn sy’n digwydd i fyny’r afon yn effeithio ar yr hyn sy’n digwydd i lawr yr afon. Bydd trin dalgylchoedd afonydd fel endidau cyfan yn gwireddu mwy ar ran cymdeithas a’r amgylchedd na dulliau traddodiadol o weithredu lle rhennir cyfrifoldeb am dir rhwng gwahanol dirfeddianwyr ac awdurdodau rheolaethol. Bydd ADSFN yn cyfrannu at sicrhau ymrwymiad y diwydiant dŵr i ymgyrraedd ag allyriannau sero o garbon erbyn 2030.
Mae’n rhaid i wytnwch ecosystemau fod wrth wraidd rheolaeth yn y dyfodol. Mae cwmnïau dŵr Cymru eisoes wedi dechrau datblygu dull gyfrifo aml-gyfalaf o weithredu sy’n ystyried buddion naturiol (ecosystemau iach) a chymdeithasol (dŵr glân a mwynderau) ochr yn ochr â chyfrifo economaidd mwy traddodiadol. Dylid eu hannog yn gryf i sefydlu hyn ym mhob proses o wneud penderfyniadau. Bydd sefydlu amcanion gwireddu bioamrywiaeth clir yn helpu i sicrhau canlyniadau i rywogaethau a’n safleoedd byd natur gwarchodedig.
Defnyddio dŵr
Rydym yn cymryd gormod o ddŵr o’r amgylchedd, sy’n peri bygythiad sylweddol i gynefinoedd a rhywogaethau dŵr croyw. Dylai cwmnïau osod cerrig milltir 10-mlynedd ar gyfer cyfyngu, drwy gyfuniad o atal gollyngiadau a lleihau defnydd, yn ein tai ac yn ddiwydiannol. Rydym yn annog y defnydd o fetrau smart, sy’n helpu defnyddwyr i ddeall mwy am eu defnydd dyddiol. Dylai rheolaethwyr sicrhau bod afonydd yn cynnal digon o ddŵr i gynnal byd natur drwy’r flwyddyn gron.
Isadeiledd dŵr gwastraff
Yn y blynyddoedd diweddar gwelwyd mwy o ymwybyddiaeth o lygredd, yn enwedig carthion mewn afonydd, o ganlyniad i’r cynnydd yn y nifer o bobl sydd wedi dechrau nofio gwyllt a chymryd rhan mewn chwaraeon padl. Ychydig o bobl, fodd bynnag, sy’n ymwybodol bod gan gwmnïau dŵr hawl i ollwng carthion heb eu trin yn uniongyrchol i afonydd, er bod y rhesymau dros hyn yn gadarn. Yn dod o dan y teitl Gorlifiadau Storm Cyfunol (GSC) caniatéir y rhain pan fydd glaw trwm yn gorlwytho gallu’r system dŵr gwastraff a storio carthion. Pan fydd hyn yn digwydd, mae cwmnïau dŵr yn gollwng y gormodedd i afonydd i osgoi unrhyw gyfle i garthion olchi’n ôl i mewn i’n tai a’n gerddi. Gan fod y carthion eisoes wedi eu glastwreiddio gan law trwm, a gan eu bod yn diflannu’n sydyn i lawr yr afon, ychydig o ddifrod a wneir.
Yn anffodus, ceir tystiolaeth gynyddol bod GSC yn gollwng hyd yn oed mewn cyfnodau o dywydd sych; mae hyn yn arwain at ddŵr llygredig sy’n dinistrio bioamrywiaeth a chreu amgylchiadau annifyr fel nad ydy’r dŵr yn bendant yn ddiogel i ymdrochi ynddo. Dydy hi ddim bob amser yn amlwg pam fod y GSC yma yn gollwng.
Mae gan ansawdd dŵr sâl effeithiau pellgyrhaeddol ar dwristiaeth a hamdden, ac mae’n niweidio’r economi. Amcangyfrifir bod gwerth economaidd dyfroedd croyw’r DU gyfan oddeutu £39.5 biliwn. Fel mae ein profiadau drwy gyfnod Covid-19 wedi ei ddangos i ni, mae mynediad at ofod gwyrdd/glas o ansawdd da’n hanfodol ar gyfer ein hiechyd corfforol a meddyliol.
Cydweithio â’r cyhoedd
Mae dealltwriaeth y cyhoedd o faint o ddŵr yr ydym yn ei ddefnyddio yn bell iawn o’r gwir; mewn arolwg yn 2020 cafwyd bod 46% o’r ymatebwyr yn credu eu bod yn defnyddio oddeutu 20 litr y dydd ym mhob cartref. Mae’r gwir ffigur yn nes at 142 litr yr unigolyn (data DU 2020-21); defnyddir traean o’r dŵr yma i dynnu’r toiled. Dydy hynny ddim yn cynnwys y defnydd eithriadol o ddŵr gan amaethyddiaeth a diwydiant, ac a ydych chi’n cofio’r ffigur cynharach uchod? Mae’n werth ei ail-adrodd – mae dau gwmni dŵr Cymru yn gollwng yr hyn sydd gyfwerth â 243 litr fesul cartref, fesul diwrnod.
Yn 2016 cynhyrchodd Dŵr Cymru ei hysbyseb cyntaf yn amlygu’r ffaith ei fod yn gwmni nad-am-elw ac, yn ôl safonau masnach, roedd hwn yn hynod o lwyddiannus o ran cyrraedd ei gynulleidfa targed a dylanwadu ar newid barn. Ers hynny maen nhw wedi cynhyrchu hysbysebion pellach i annog y cyhoedd i ddefnyddio llai o ddŵr ac i beidio â rhoi cadachau gwlyb (wet wipes) i lawr y toiled gan eu bod yn tagu’r system. Rydym yn croesawu’r dull hwn o weithredu a hoffem ei weld yn digwydd ar raddfa ehangach o lawer, gan fod sicrhau cefnogaeth y cyhoedd yn hanfodol os ydym am weld gwir welliannau. Mae angen mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a diwydiant ar gwmnïau dŵr i rwystro llygredd wrth ei ffynhonnell, yn hytrach na cheisio ymateb iddo yn ddiweddarach. Ar y llaw arall, mae’n rhaid iddyn nhw arwain drwy esiampl. Mae buddion cwsmeriaid yn esblygu ac mae eu disgwyliadau’n cynyddu wrth iddyn nhw bryderu fwyfwy am ddifrod i’r amgylchedd wrth ddefnyddio dŵr, gollwng carthion, a gollyngiadau o garbon. Bydd yn anodd perswadio’r cyhoedd i newid eu hymddygiad eu hunain os na fydd cwmnïau dŵr yn fodlon atal GSC anghyfreithlon a lleihau faint o ollyngiadau sy’n digwydd.
Mae aelodau Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi cynnal cyfarfodydd gyda chwmnïau dŵr ac Ofwat yn yr wythnosau diwethaf i rymuso ein hachos dros newid. Edrychwn ymlaen at weld cynlluniau busnes uchelgeisiol newydd sydd wir yn gwireddu dros fyd natur rhwng 2025-2030.

