Project Cydweithredu ac Amrywiaeth

 

Derbyniodd Cyswllt Amgylchedd Cymru (y Cyswllt) grant o £100,000 gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth Genedlaethol y Loteri ar gyfer project newydd y rhwydwaith, “Creu cynhwysedd, cydweithrediad ac amrywiaeth yn y sector amgylcheddol anllywodraethol” yng Nghymru. Mae’r project yn canolbwyntio ar adnabod a diddymu rhwystrau i ymgysylltu a recriwtio ystod mwy amrywiol o gymunedau mewn gyrfeydd ac ymgyrchu amgylcheddol. Mae’n canolbwyntio hefyd ar wella gwytnwch trefniadaethol wrth gefnogi cydweithredu ledled gwahanol gyrff a chymdeithasau, a chynnal medrau arbenigol, megis entomoleg a botaneg, o fewn Cymru. Daw hyn ar adeg tyngedfennol i’r sector sy’n gobeithio ailddatblygu ei hun wedi blwyddyn anodd dros ben a chyn lleied o gyfleoedd am nawdd ariannol.  

Rhwydwaith o gyrff anllywodraethol amgylcheddol, cefn gwlad a threftadaeth sy’n gweithio ar lefel genedlaethol yng Nghymru yw’r Cyswllt. Ein gweledigaeth yw amgylchedd ffyniannus yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd y project yn defnyddio cymysgedd o weithdai a hyfforddiant i ddarparu staff o ystod eang o gyrff anllywodraethol amgylcheddol gyda medrau newydd. Bydd hyn yn cynnwys datblygu consortia, datblygiad projectau sydd â partneriaid lluosog a hyfforddiant amrywiaeth i helpu cyrff i ddiddymu rhwystrau i gydweithredu a chynyddu amrywiaeth yn y sector. Gobeithir y bydd y medrau hyn yn sicrhau bod cyrff anllywodraethol amgylcheddol yn ddigon gwydn i helpu Cymru i gychwyn ar lwybr ‘adferiad gwyrdd’ a fydd yn wir ystyried yr argyfyngau hinsawdd a byd natur yr ydym yn eu hwynebu.

A group of volunteers stand together smiling in a forst

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad

An image of a bluebell field

Projectau cydweithredol ac ariannu arloesol