Wrth inni ddechrau tymor newydd y Senedd, yn dilyn etholiadau mis Mai 2021, fe fyddwn yn treulio’r ychydig fisoedd nesaf yn sefydlu prosiect Pencampwyr Rhywogaeth ar gyfer Chweched Tymor y Senedd. Gyda’r rhan fwyaf o Bencampwyr y Pumed Tymor wedi’u hail-ethol, fe fyddwn mewn cysylltiad ag ASau sy’n dychwelyd i weld pa rai fydd yn aros gyda’r un rhywogaeth a pha rywogaethau newydd all fod yn rhan o’r prosiect, yn ogystal â recriwtio ASau newydd a etholwyd am y tro cyntaf eleni.
Fe ddechreuodd Prosiect Pencampwyr Rhywogaeth Cyswllt Amgylchedd Cymru yn ôl ym mis Mehefin 2016, pan wnaethom ymuno â’r chwaer-brosiectau yn yr Alban, Cymru a Lloegr, a dechrau cysylltu ein Haelodau Seneddol â rhywogaethau sydd mewn perygl yn eu hetholaeth. Yng Nghymru, mae gennym ddyletswydd bioamrywiaeth ar bob corff cyhoeddus yng Nghymru, i sicrhau bod popeth a wnânt yn ystyried yr effaith ar yr amgylchedd a sut y gall pob un ohonom wneud ein rhan i gynnal, adfer ac adfywio natur ym mhob cwr o Gymru.
Lansiwyd y prosiect ychydig ar ôl i Ddeddf yr Amgylchedd ddod i rym, a gwnaethom ganolbwyntio ar godi bioamrywiaeth fel mater o bwysigrwydd gwleidyddol. Ymatebodd ASau yn wych ac rydym mor ddiolchgar i’r holl amser ac egni y maent wedi’u rhoi i sicrhau bod natur yn parhau i fod yn flaenoriaeth trwy holl bolisïau Llywodraeth Cymru. Mae Cymru yn gyfoethog o ran natur, ond rydym hefyd wedi gweld dirywiad syfrdanol yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf, felly roeddem yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn arwain wrth ddatgan argyfyngau hinsawdd a natur yn nhymor diwethaf y Senedd. Sefydlodd Deddf yr Amgylchedd y mecanweithiau sydd eu hangen arnom i fonitro ein hecosystemau trwy’r Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol, Datganiadau Ardal a dyletswydd bioamrywiaeth Adran 6. Mae’r rhestr Adran 7, sydd hefyd yn rhan o’r Ddeddf, yn darparu rhestr o rywogaethau sydd mewn perygl a chynefinoedd sylweddol sydd o’r flaenoriaeth uchaf i gynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru.
Trwy gysylltu rhywogaethau sydd ar y rhestr hon â’r etholaethau a’r rhanbarthau y mae ASau yn eu cynrychioli, ein nod yw dod â materion bioamrywiaeth yn fyw a sicrhau bod Aelodau’r Senedd a Llywodraeth Cymru yn gallu gweld y gwahaniaeth y mae bywyd gwyllt iach yn ei wneud.
Mae WEL, fel y rhwydwaith ar gyfer elusennau amgylcheddol yng Nghymru, yn cydlynu’r prosiect gyda detholiad o’n haelodau sy’n canolbwyntio ar gadwraeth rhywogaethau, gan gynnwys RSPB, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru, Buglife, Bat Conservation Trust, Butterfly Conservation, Bumblebee Conservation Trust, Afonydd Cymru, Salmon & Trout Conservation, Marine Conservation Society a Plantlife.
Yn y tymor diwethaf, aethom ag ASau allan ar gynifer o ymweliadau safle ag y gallem – nad oedd yn dasg hawdd pan fo’r rhywogaeth yn brin neu pan na fydd yn ymddangos ond ar adegau penodol o’r flwyddyn! Fe naethon ni eu cyflwyno nhw gyda grwpiau ystlumod lleol, patrolau llyffantod, grwpiau genweirio, gwylwyr adar a llu o grwpiau natur lleol eraill i fynd allan yn y maes a dysgu sut y gallwn ni i gyd chwarae ein rhan i achub natur.
Fe wnaethom gynnal sawl digwyddiad yn y Senedd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n ASau am gyflwr bioamrywiaeth yng Nghymru. Ein ffefryn oedd y digwyddiad ‘Dangoswch y Cariad’ ym mis Chwefror 2018, pan wnaeth aelodau lleol yr RSPB fathodynnau cartref hardd ar gyfer ein holl Bencampwyr, gan arddangos eu rhywogaeth. Daeth ASau i’w derbyn a gwnaeth pob un yr ymdrech i ‘Ddangos y Cariad’ ar gyfer natur yn ystod Cwestiynau’r Amgylchedd, ac mae bron pawb wedi codi llais sawl gwaith ar gyflwr eu rhywogaeth nhw yn ystod Cyfarfod Llawn o’r Senedd.
Roedden ni’n falch iawn o’n Pencampwyr Rhywogaeth. Yn ogystal ag adeiladu hafanau gwyllt yn eu gerddi gyda blychau adar, twneli draenogod a phyllau dwr, fe wnaethant sefyll dros eu rhywogaeth yn y gymuned ac yn y Senedd. Gall yr argyfwng natur fod yn anodd i’w ddeall, ond pan rydyn ni’n sôn am sut mae e’n effeithio ar y creaduriaid unigol hyn a sut y gall atebion lleol sy’n seiliedig ar natur eu hadfywio nhw, fe allwn ni i gyd ddod at ein gilydd i fynd i’r afael â’r sialens.
Os ydych chi’n aelod newydd o’r Senedd sydd eisiau bod yn rhan o’r prosiect yn y Chweched Senedd 2021-2016, cysylltwch â liz@waleslink.org ac fe gewch chi eich cysylltu â rhywogaeth ac aelod WEL (neu ddau) i’ch helpu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi gyda sesiynau briffio ac fydd yn gallu mynd â chi allan ar ymweliadau rheolaidd. Fe fyddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r argyfwng natur yn uniongyrchol yng Nghymru. Diolch eto i bawb a gefnogodd ni y tro diwethaf ac rydym yn edrych ymlaen at fynd ati unwaith eto.
Os hoffech weld ein cylchlythyrau o 2017-21, fe welwch chi nhw isod:




















