Pâl yn edrych o dan y dŵrr

Mae’r ddwy Uwchgynhadledd fawr yn nesáu!

Maw 22, 2021 | Ein blog

Yn ddiweddarach eleni, bydd y DU yn croesawu 195 o arweinwyr y byd i’r uwchgynhadledd hinsawdd ryngwladol yn Glasgow. Mae’n cael ei alw yn COP26 hefyd, bydd y trafodaethau yn gyfle hanfodol i’r gymuned fyd-eang gytuno atebion i’r argyfwng hinsawdd.

Ond mae llai o bobl yn ymwybodol o uwchgynhadledd allweddol arall eleni: y trafodaethau rhyngwladol sy’n cael eu cynnal i fynd i’r afael â’r argyfwng natur sydd yr un mor frys. Bydd uwchgynhadledd bioamrywiaeth COP15 yn cael ei chynnal yn Kunming, China. Hyd yn hyn efallai nad yw hi wedi denu’r un lefel o sylw â’r gynhadledd am yr hinsawdd, ond mae llawer yn dibynnu ar lwyddiant yn y trafodaethau.

Beth yw’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol?

Yn Uwchgynhadledd y Ddaear yn 1992 yn Rio de Janeiro, cytunodd arweinwyr y byd dri Chonfensiwn fel mecanweithiau i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig: Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC), y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD), a’r Confensiwn i Brwydro yn erbyn Anialwch (UNCCD). Mae pob un yn cael ei lywodraethu gan Gynhadledd y Partïon (COP), lle mae arweinwyr y byd yn cwrdd i adolygu cynnydd a gwneud penderfyniadau sy’n hyrwyddo cyflawni amcanion y confensiwn.

Mae’r Gynadleddau COP yn digwydd bob dwy flynedd o dan y CBD, a COP eleni fydd y pymthegfed cyfarfod. Pwrpas y CBD yw gwarchod a sicrhau defnydd cynaliadwy o amrywiaeth fiolegol ar bob lefel.

Yn nhrafodaethau 2010 yn Nagoya, Siapan, arwyddodd 194 o wledydd (neu bleidiau) gyfres o 20 targed i’w cyrraedd erbyn 2020. Mae’r rhain yn cael eu galw yn dargedau Aichi ar ôl y rhanbarth o Siapan lle mae Nagoya, fe’u crëwyd i fynd i’r afael ag amrywiaeth eang o materion yn cefnogi bioamrywiaeth fyd-eang. Yn dilyn y gynhadledd, roedd yn ofynnol hefyd i lofnodwyr ddyfeisio cynlluniau bioamrywiaeth cenedlaethol i gyflawni’r targedau. Yn y DU, mae bioamrywiaeth yn fater polisi datganoledig, ac felly mae’r llywodraethau datganoledig yn gyfrifol am greu a chyflawni eu gweithredoedd eu hunain, tra bod cynlluniau Llywodraeth y DU yn ymwneud â Lloegr.

Wedyn, yn 2020, fe ddatgelodd 5ed adroddiad Rhagolwg Bioamrywiaeth Byd-eang fod y targedau hyn wedi cael eu methu yn rhyfeddol ledled y byd. Er gwaethaf i arweinwyr y byd addo degawd o ymdrechion ar y cyd i fynd i’r afael â dirywiad amhrisiadwy natur, fe wnaeth y bydd fethu â chyrraedd un o’r 20 targed. Methodd y DU, a phob un o’i phedair gwlad, gwrdd â’u gyfraniad tuag at y nod byd-eang hwn. Mae’r diffyg cynnydd hwn a’r argyfwng ecolegol dyfnach yn ei gwneud yn glir, er ein bod ni wedi methu yn negawd diwethaf y Cenhedloedd Unedig ar fioamrywiaeth, fod yn rhaid inni lwyddo i adfer ecosystemau yn y degawd nesaf.

Beth yw’r cynllun ar gyfer COP15?

Ac os nad oedd tri chyfarfod y Confensiwn yn yr Hydref yn ddigon, mae uwchgynhadledd bioamrywiaeth eleni hefyd yn un arbennig o bwysig. Wrth i’r partïon baratoi i gwrdd yn Kunming, mae cynlluniau cychwynnol ar gyfer y fframwaith bioamrywiaeth newydd ar ôl 2020 eisoes wedi’u llunio. Penderfynir ar y fersiwn derfynol yn y gynhadledd ond disgwylir iddo gynnwys cytundeb i roi bioamrywiaeth fyd-eang ar y llwybr i adferiad erbyn 2030, a tharged i amddiffyn 30% o dir a moroedd y Ddaear erbyn 2030.

Ni allwn fforddio gwneud yr un camgymeriadau a cholli’r targedau hyn yr eildro. Mae’r dystiolaeth yn glir y bydd parhau i ddinistrio natur yn arwain at filoedd yn rhagor o rywogaethau’n diflannu am byth, fyddai’n cynyddu’r risg o ansicrwydd bwyd, ac yn cynyddu’r tebygolrwydd o bandemigau pellach fel Covid-19. Ac wrth i’r argyfwng hinsawdd waethygu, mae ecosystemau diraddiedig hefyd yn cyfyngu ar ein gwytnwch a’n gallu i addasu i ddigwyddiadau tywydd eithafol.

Pa rôl all pedair gwlad y DU ei chwarae wrth ddylanwadu ar ganlyniad COP15?

Os bydd cytundeb mawr rhyngwladol, rhaid inni sicrhau fod yr uchelgais yma yn cydfynd â hwn, gan sicrhau ein bod ni’n newid y tueddiadau presennol i fwy a mwy o fioamrywiaeth yn cael ei golli. Rhaid inni gyflawni ymrwymiadau a wnaed o dan y CBD. Mae gan y DU gyfle cryf i arwain, gan fanteisio ar y ffaith mai hi sy’n cadeirio UNFCCC ar gyfer COP26 yn ogystal â’r G7. Ym mhob gwlad, mae atyniad gwleidyddol o fabwysiadu rôl arweiniol fyd-eang yn cynnig cyfle i ysgogi mwy o uchelgais mewn agendâu cenedlaethol, gan gysylltu hygrededd negodi polisi rhyngwladol â chryfder gweithredoedd domestig.

Ym mis Medi 2020, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU ymrwymiad i amddiffyn 30% o dir y DU erbyn 2030. Ym mis Rhagfyr 2020, ymrwymodd Llywodraeth yr Alban i amddiffyn 30% o dir yr Alban ar gyfer natur erbyn 2030, yn y ‘Datganiad o Fwriad ar Fioamrywiaeth‘. Croesawodd y pedwar mudiad Cyswllt Amgylchedd hefyd Ddatganiad Caeredin diweddar ar Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang ar ôl 2020, sy’n galw am ymrwymiad ar y cyd gan Lywodraethau is-genedlaethol, dinasoedd ac awdurdodau lleol i godi uchelgais ar gyfer adferiad natur. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried bod y rhan fwyaf o’r tir a’r môr a ddiogelir yn gyfreithiol ar gyfer natur yn y DU yn dod o fewn awdurdod y llywodraethau datganoledig.

Fodd bynnag, er bod yna groeso i’r cyhoeddiadau hyn, mae rhaid i bob un o bedair gwlad y DU ddangos eu bod o ddifri ynglŷn â mynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth trwy droi’r addewidion hyn yn gamau gweithredu gwirioneddol ar lawr gwlad. Rydyn ni eisiau gweld:

  1. Targedau: Byddai gosod nod byd-eang ar gyfer adfer rhywogaethau a chynefinoedd ar dir, ac ar y môr, ac mewn cynefinoedd dŵr croyw yn lle da i ddechrau. Petai modd inni gytuno hyn rhwng pedair gwlad y DU cyn mynd i mewn i’r trafodaethau, fyddai hynny’n anfon signal clir at arweinwyr eraill i ddilyn yr un peth. Mae cyfleoedd i wneud hyn trwy welliant arfaethedig i Fesur yr Amgylchedd yn San Steffan a Strategaeth Bioamrywiaeth nesaf Gogledd Iwerddon. Er mwyn cwrdd â’r ymrwymiadau uchelgeisiol a nodwyd yn natganiad bwriad Llywodraeth yr Alban, rhaid i Strategaeth Bioamrywiaeth yr Alban gynnwys targedau uchelgeisiol ac ystyrlon, a chael eu cefnogi gyda’r adnoddau sydd eu hangen i sicrhau adferiad natur. Yng Nghymru, rydym yn galw am ddeddfwriaeth newydd ar lywodraethiant amgylcheddol, i gyflwyno targedau adfer natur sy’n rhwymo’n gyfreithiol.
  2. Mesurau i fynd i’r afael ag achosion colli bioamrywiaeth: Os bydd yna dargedau, rydyn ni angen cynllun clir hefyd sy’n amlinelli sut mae modd eu cyflawni. Gallai’r ymrwymiad 30 × 30 chwarae rhan bwysig mewn unrhyw gynlluniau, ar yr amod bod ardaloedd gwarchodedig yn cael eu rheoli a’u monitro’n effeithiol. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae safleoedd a ddiogelir ar gyfer natur yn aml mewn cyflwr gwael ac nid oes gan safleoedd a ddynodwyd ar gyfer tirweddau fel Parciau Cenedlaethol targedau cyfreithiol clir ar gyfer adferiad natur. Rhaid mynd i’r afael hefyd ag achosion colli natur y tu allan i’r 30%.
  3. Cyllid digonol a fframwaith i olrhain cynnydd: Bydd system fonitro, gorfodi, adrodd yn ôl a gwirio gadarn hefyd yn hanfodol ar gyfer asesu cynnydd tuag at dargedau, a rhaid i ymdrechion i’w cyrraedd gael eu cefnogi gan gyllid priodol.
  4. Cydlynu ar draws y pedair gwlad: Mae’n bwysig cofio nad yw natur yn cydnabod unrhyw ffiniau ac wrth i dymheredd y byd godi, bydd rhywogaethau’n symud eu hystodau i aros o fewn amodau addas. Er mwyn cwrdd ag unrhyw dargedau yn llwyddiannus, bydd yn hanfodol i bedair Llywodraeth y DU weithio ar y cyd. Er y bydd pob gwlad yn gyfrifol am ei strategaeth bioamrywiaeth ei hun i weddu i’w hecoleg benodol, ni all yr un wlad wneud hyn ar ei phen ei hun. Yr unig ffordd y gallwn gyflawni’r raddfa newid sydd ei hangen arnom yw trwy arweinyddiaeth fyd-eang ac ymrwymiad i dargedau sy’n rhwymo’n gyfreithiol ar gyfer natur ym mhob gwlad.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd y pedwar mudiad Cyswllt Amgylchedd yn cydweithio i ddatblygu ein hargymhellion ar sut y gall pedair Llywodraeth y DU weithio gyda’i gilydd a chyfrannu at lwyddiant y fframwaith bioamrywiaeth  ar ôl 2020. Bydd yn amhosibl datrys argyfwng yr hinsawdd heb fynd i’r afael â’r argyfwng natur, ac i’r gwrthwyneb, ac felly dylai sicrhau canlyniadau da yn y ddwy uwchgynhadledd fod yn flaenoriaeth fwyaf i’r pedair llywodraeth. Efallai bod COVID-19 wedi gwyrdroi llawer o’n cynlluniau ar gyfer 2020 fel blwyddyn heb ei ail ar gyfer yr amgylchedd, ond trwy arweinyddiaeth fyd-eang yn COP15 a COP26 gallai pedair gwlad y DU fod yn allweddol wrth helpu 2021 i hawlio’r teitl.

Juliet Caldwell, Swyddog Eiriolaeth Natur Scottish Environment LINK

Imogen Cripps, Swyddog Polisi yn Wildlife and Countryside Link

Jill Eagleson, Swyddog Polisi a Phrosiectau yng Northern Ireland Environment Link

Rory Francis, Swyddog Eiriolaeth Targedau Natur Cyswllt Amgylchedd Cymru