Maniffesto CAC ar gyfer Etholiadau Senedd 2021 – 2025

Maw 7, 2021 | Maniffesto

Mae aelodau Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi cydweithio i greu maniffesto sy’n cynnwys pum blaenoriaeth ar gyfer pleidiau gwleidyddol Cymru. Rydym yn credu fod y rhain yn angenrheidiol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng natur. Fe welwch chi, ein maniffesto isod. Mae yna grynodeb a fersiwn gyflawn. Rydym yn bwriadu cynnal gyfarfod hystings yng ngwanwyn 2021 i ofyn i aelodau’r Senedd a wnân nhw weithredu’r polisïau hyn i atal dirywiad byd natur.