Beth rydym yn ei wneud

Ein gweledigaeth

Ein cenhadaeth

Rhwydwaith o gyrff anllywodraethol amgylcheddol, cefn gwlad a threftadaeth sy’n gweithio ledled Cymru ers 1990 yw Cyswllt Amgylchedd Cymru (y rhwydwaith). Rydym yn cefnogi ein haelodau wrth ymwneud â Llywodraeth a Senedd Cymru ac yn eu helpu i gydweithio er mwyn datblygu polisi ac ymarfer amgylcheddol effeithiol.  

Rydym yn gwneud hyn drwy gydlynu amrywiaeth o o fforymau polisi ac eiriolaeth amgylcheddol sy’n canolbwyntio ar fyd natur, yr amgylchedd morol, amaethyddiaeth, coedwigaeth, llywodraethu amgylcheddol, mynediad ac economi gylchol/cynaladwyedd. Mae ein haelodau yn elwa wrth gydweithio’n agos ar faterion sy’n gyffredin iddyn nhw i gyd, heriau a chyfleoedd ar gyfer amgylchedd Cymru. Rydym hefyd yn cydweithio’n agos gyda’n chwaer rwydweithiau ledled y DU. 

 

Ein gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw amgylchedd Cymreig ffyniannus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ein cenhadaeth

Ein cenhadaeth yw mai’r Rhwydwaith fydd prif ddylanwadwr y sector cyrff anllywodraethol ar bolisi, deddfwriaeth ac ymarfer amgylcheddol yng Nghymru, sy’n cael ei barchu am arbenigedd a chyngor ein haelodau ac sydd wrth wraidd ffordd y llywodraeth o wneud penderfyniadau.

Yng ein Cynllun Strategol ar gyfer 2025 – 2030, mae trosolwg o’n hamcanion amgylcheddol a sut y byddwn yn cefnogi gwaith ein haelodau am y pum mlynedd nesaf.