Mae adroddiad newydd yn dangos yr angen am dargedau i adfer natur yng Nghymru

Meh 26, 2021 | Ein blog

Mae adroddiad newydd gan yr RSPB Cymru a’r WWF, gyda chefnogaeth Cyswllt Amgylchedd Cymru, yn esbonio pam mai targedau sy’n rhwymo’n gyfreithiol i yrru gweithredu i adfer natur yw’r darn coll o’r jig-so yn fframwaith amgylcheddol Cymru. Mae’r adroddiad ‘Rhoi Cymru ar Lwybr i Adfer Natur’ – a ysgrifennwyd gan gyn Gyfarwyddwr RSPB yr Alban, Stuart Housden OBE – yn darparu dadansoddiad cynhwysfawr sy’n dangos sut mae ymdrechion Llywodraeth Cymru hyd yma wedi methu â rhwystro colli bywyd gwyllt, ac yn amlinelli’r achos o blaid targedau tymor hir a thymor byr a fyddai’n ddigon cryf i gyflawni’r newid sydd ei angen ac ymateb i’r argyfwng natur ochr yn ochr â’r angen i gyrraedd ‘sero net’ o ran carbon.

Gyda’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) COP15 ar fin cytuno ar fframwaith byd-eang newydd o dargedau bioamrywiaeth yn ddiweddarach eleni, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i osod ei thargedau uchelgeisiol ei hun i amddiffyn ac adfer natur ar dir ac yn afonydd a moroedd Cymru. Argymhellodd adroddiad diweddar gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y dylai hyn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth newydd Cymru ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon. Mae cefnogaeth gyhoeddus gref hefyd, gydag arolwg barn gan y mudiad Unchecked UK yn dangos bod 68% o ddinasyddion Cymru eisiau Llywodraeth Cymru osod targedau sy’n rhwymo’n gyfreithiol ar gyfer adfer a gwarchod bywyd gwyllt.

Trwy gyfres o astudiaethau achos, mae’r adroddiad newydd ‘Rhoi Cymru ar Lwybr at Adfer Natur’ yn dangos eu bod wedi bod yn gatalydd ar gyfer gweithredu a chynnydd mwy effeithiol mewn meysydd polisi a lleoedd lle mae targedau clir a rhwymol wedi’u cyflwyno. Yn Seland Newydd a’r Iseldiroedd, mae targedau a osodwyd gan lywodraethau yn gyrru adnoddau sylweddol i greu ac adfer cynefinoedd ar raddfa fawr, gan arwain at ecosystemau iachach a chreu swyddi newydd. Yma yng Nghymru, mae targedau uchelgeisiol wedi cynyddu cyfraddau ailgylchu fel bod Cymru bellach yn gyntaf yn y DU, yn ail yn Ewrop ac yn drydydd yn y byd ar gyfer ailgylchu gwastraff cartref. Mae targedau cyfreithiol ar gyfer newid yn yr hinsawdd gydag adolygiadau a monitro rheolaidd yn gyrru cynlluniau lleihau carbon ar draws gwahanol feysydd o’r Llywodraeth.

Prif argymhelliad yr adroddiad yw y dylid cyflwyno set uchelgeisiol, o dargedau tymor hir a interim, sy’n rhwymo’n gyfreithiol, i sicrhau adferiad natur yng Nghymru, erbyn 2022, ac sy’n ymdrin ag amgylcheddau tir, dŵr croyw a’r moroedd. Mae hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i atal a dechrau gwrthdroi colli bioamrywiaeth erbyn 2030 a sicrhau adferiad erbyn 2050, gyda’r targedau hyn wedi’u prif ffrydio ar draws pob maes o’r Llywodraeth. Bydd angen i’r targedau ystyried arbenigedd annibynnol a chyngor gwyddonol, a dylai Gweinidogion fod â dyletswydd cyfreithiol i gyflawni’r targedau hyn er mwyn sicrhau atebolrwydd priodol.

Gyda’r Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol diweddaraf ar gyfer Cymru yn dangos darlun cyffredinol o ostyngiadau parhaus difrifol mewn bioamrywiaeth, rydym ar adeg dyngedfennol ac ni allwn fforddio degawd arall o ‘fusnes fel arfer’ ar gyfer bywyd gwyllt. Mae gan Gymru ddeddfwriaeth sy’n edrych i’r dyfodol eisoes yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd, ond heb dargedau clir a rhwymol, nid ydym wedi gweld gweithredu cydgysylltiedig ar y raddfa sydd ei hangen. Mae’r adroddiad hwn yn dangos yr hyn y gallai targedau o’r fath ei gyflawni ar gyfer bywyd gwyllt Cymru, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i roi ei hargymhellion ar waith yn y flwyddyn dyngedfennol hon ar gyfer natur.

Gallwch chi lawrlwytho’r adroddiad llawn crynodeb gweithredol, yn ddwyieithog, isod.

Adroddiad: Rhoi Cymru ar Lwybr i Adfer Natur

Crynodeb Papur Briffio: Adfer Natur

Report: Putting Wales on a Pathway to Nature Recovery

Summary briefing: Nature Recovery in Wales